Cynulliad Cenedlaethol Cymru l National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol l Constitutional and Legislative Affairs Committee
Ymchwiliad: Pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth l Inquiry: Powers in the EU (Withdrawal) Bill to make subordinate legislation
Ymateb gan: Cytûn
Response from: Cytûn

 

Pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth

Cyflwyniad gan Weithgor Cymru ac Ewrop Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru

Mae Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) yn dwyn ynghyd prif enwadau Cristnogol Cymru, a nifer o fudiadau Cristnogol eraill, i gyd-weithio ar faterion sydd o ddiddordeb iddynt oll. Mae gan yr 17 aelod enwad ryw 165,000 o oedolion sy’n aelodau ymhob cymuned ar draws Cymru, a chyswllt rheolaidd â llawer mwy o oedolion, plant a phobl ifainc. Gellir gweld rhestr lawn o’r holl enwadau a mudiadau sy’n aelodau yn: http://www.cytun.cymru/ni.html  

Ffurfiwyd Gweithgor Cymru ac Ewrop yn dilyn refferendwm Mehefin 2016 er galluogi’r eglwysi i gyd-weithio wrth ymateb i’r canlyniad a’r newidiadau sylweddol ym mywyd y genedl a ddaw yn ei sgîl. Mae i bob aelod enwad yn Cytûn ran yng ngwaith y Gweithgor. Gellir gweld yr adnoddau a gyhoeddwyd gan y Gweithgor yn: www.cytun.cymru/cymruewrop  

Byddem yn croesawu cyfleoedd pellach i ymwneud â gwaith y Pwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at: Parch. Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, yn gethin@cytun.cymru. Gellir cyhoeddi’r ymateb hwn yn llawn.

 

Ymatebion blaenorol

 

Rydym wedi ymateb i ddau ymgynghoriad blaenorol y Pwyllgor am Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a gellir gweld ein hymatebion yma:

http://www.cytun.cymru/cymruewrop/PDFs/Ewrop-CytunYmgynghoriadBilDiddymu05-17.pdf (Mai 2017)

http://www.cytun.cymru/cymruewrop/PDFs/Cytun-Ymgynghoriad-EAALC-08-17.pdf  (Medi 2017)

Cytunodd cyfarfod y Gweithgor ar 23 Tachwedd 2017 ein bod yn glynu at ein hymatebion blaenorol, a nodwn y bydd y Pwyllgor yn eu hystyried drachefn.

 

Pryder ychwanegol

 

Roedd cyfarfod y Gweithgor ar 23ain Tachwedd am gyfleu pryder ychwanegol. Nodwn fod deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU parthed ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ar wahân i’r Bil Ymadael ei hun, yn cynnwys nifer o’r nodweddion y mae’r Pwyllgor a ninnau wedi mynegi pryder yn eu cylch eisoes. Mae’r rhain yn cynnwys:

1.       Pwerau i alluogi gweinidogion Llywodraeth y DU i newid deddfwriaeth ddatganoledig trwy is-ddeddfwriaeth heb ymgynghori â’r Cynulliad Cenedlaethol (e.e. Adran 2(6)(a) yn y Bil Masnach)

2.       Cyfyngu ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol i newid “cyfraith yr UE a gedwir” trwy is-=ddeddfwriaeth (e.e. Atodlen 1 Adran 2 yn y Bil Masnach) tra’n caniatáu’r pŵer hwnnw i Weinidogion y Goron (e.e. Adran 2(6)(a) y Bil Masnach)

3.       Pwerau sy’n galluogi gweinidogion Llywodraeth y DU i newid neu ddiddymu unrhyw Ddeddf Seneddol trwy is-ddeddfwriaeth (e.e. Adran 54(2) yn y Bil Trethiant (Masnach Trawsffiniol).

Byddai cynnwys y fath ddarpariaeth mewn deddfwriaeth arall – yn enwedig deddfwriaeth gydag oblygiadau eang, megis y Bil Masnach, neu ddeddfwriaeth na fydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar ei chyfer yn y Cynulliad Cenedlaethol – yn dirymu i raddau helaeth unrhyw lwyddiant i newid y darpariaethau hyn ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ei hun.

Rydym felly am annog y Pwyllgor i graffu’n ofalus ar yr holl deddfwriaeth o’r math yma a cheisio ei gwella yn unol â’r gwelliannau a awgrymwyd gennych i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

 

30ain Tachwedd 2017.

 

 

Parch./Revd Gethin Rhys

Swyddog Polisi’r Cynulliad Cenedlaethol / National Assembly Policy Officer

Cytun - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT

Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 | Cytûn is a registered company in England and Wales | Number: 05853982 | Registered name: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Cytûn is a registered charity | Number: 1117071